CYHOEDDIADAU

Un o amodau’r Ysgoloriaeth Goffa yw bod yr enillydd ar ddiwedd y cyfnod astudio yn “cyflwyno deunydd yn Gymraeg yn seiliedig ar y gwaith a wnaed ganddo/ganddi, mewn ffurf a fo’n addas i’w gyhoeddi.” Hyd yn hyn cyhoeddwyd y canlynol o ganlyniad i’r Ysgoloriaeth Goffa.

Mae rhai o’r dogfennau ar gael yma neu ar wefannau eraill ar ffurf PDF. Bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn agor dogfennau PDF yn ddidrafferth, ond mae’n bosib y bydd yn rhaid ichi lawrlwytho Adobe Acrobat Reader. Bydd dolenni eraill yn arwain at wybodaeth lyfryddol ar wefan gwales.com.

Bryn Jones, ‘Documents relevant to Wales before the Edwardian Conquest in the Vatican Archives’ yn Wales and the medieval world: travel migration and exilegol. Patricia Skinner (2018)

​Rhianedd Jewell, Her a hawl cyfieithu dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière (2017)

Tudur Hallam, Saunders y Dramodydd, Cyfres Llên y Llenor (2013)

Manon Mathias, ‘Meiddio byw’: agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis yn Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, tt.79-95. Hefyd ‘Y llythyr a’r llyfr: gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis’ yn Ysgrifau Beirniadol, 31, 2013.

Anwen Elias, Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac addasu i ddatganoli: astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego (2011) (PDF) 
​Euros Lyn, Dogme 95 (2011).

Simon Brooks, Pam y bu farw ein hiaith? (2010) (PDF)
​Elin Royles, Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia – gwersi Catalwnia i Gymru? (2009) (PDF)
​Gwion Lewis, Hawl i’r Gymraeg (2008)

Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, cwningod a sgwarnogod : esthetig radical Twm Morys, Vaclav Havel a Bohumil Hrabal (2006)

Gwawr Hughes, Pa wersi parthed datblygiad economaidd y gall Cymru eu dysgu o Ddenmarc (2003) (PDF)
​Heather Williams, Barddoniaeth i bawb?: Stephane Mallarme (1998) (PDF)
​Angharad Price, Smentio sentiment: beirdd concrid grŵp Fiena, 1954-1964 (1996) (PDF)