PWY OEDD SAUNDERS LEWIS?

Ganed Saunders Lewis yn fab i weinidog Calfinaidd ar gyrion Lerpwl yn ystod degawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 92 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn 1985 yn dad ysbrydol cenedlaetholdeb Cymreig, yn gyn-garcharor, yn feirniad llenyddol na ellir deall y canon Cymraeg hebddo, yn ddramodydd mwyaf cynhyrchiol yr iaith ac yn farchog Pabyddol. Prin y gellir edrych trwy fynegai yr un llyfr ar hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif heb weld ei enw a llu o gyfeiriadau wrtho.

Saunders Lewis yn annerch yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn-ebwy 1958

RHYFEL BYD 1914-18

Rhyfel Mawr 1914-18 – achos dadwneud cynifer – a wnaeth Lewis. Gadawodd ei gwrs gradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, ymrestrodd o’i wirfodd yn y fyddin a’i glwyfo yn ffosydd Ffrainc. Pwysicach na’r profiad corfforol, er hynny, oedd y dirywio araf – trwy ddarllen – ar ‘hedoniaeth fy ieuenctid’, fel y’i galwai wedyn. Aeth yno wedi ffoli ar unigoliaeth esthetig y beirdd Sioraidd Saesneg. Daeth oddi yno wedi’i argyhoeddi mai mewn cymdeithas yn unig a thrwy ymglywed â’i gorffennol y mae dyn yn ddyn.

Wedi iddo gwblhau ei radd ohiriedig, aeth ymlaen i wneud MA ar ddylanwad beirdd Saesneg y ddeunawfed ganrif ar eu cyfoeswyr Cymraeg. Ei flwyddyn yn Aberystwyth a drodd y fantol. Rhoddodd gnawd cenedlaetholdeb ar ei estheteg a’i sadio yn ei gred mai yng Nghymru yr oedd i fod. Cyn pen blwyddyn eto, fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Abertawe.


SEFYDLU’R BLAID GENEDLAETHOL GYMREIG

Gwelodd 1925 sefydlu’r Blaid Genedlaethol Gymreig a phennu ei pholisïau. Flwyddyn yn ddiweddarach, caed y gyntaf o’r fflyd o erthyglau i’w misolyn newydd, Y Ddraig Goch. Cyn pen blwyddyn eto, yn 1927, cyhoeddodd Williams Pantycelyn a’i ymgais feiddgar i osod emynydd mwyaf blaenllaw a lladmerydd y wedd fwyaf gwerinol ar ei chrefydd yn y traddodiad llenyddol Ewropeaidd a’i gynysgaeddu â chorff a seice a nwydau. Clywsai Cymru enw Saunders Lewis.

Mae’n bur debyg y gallai rhywun llai uchelgeisiol – llai diamynedd – na Lewis fod wedi treulio’i oes yn ddiddan rhwng galwadau plaid a choleg a theulu: safiad symbolaidd mewn etholiad seneddol bob hyn a hyn (fel y gwnaethai yn 1931), cadair coleg gydag amser efallai, llwyth o gyfrolau academaidd a phapurau polisi ar amaeth neu drafnidiaeth neu drefniadaeth fewnol y Blaid yn ôl y galw. Nid oedd yn sicr yn brin o’r doniau ymarferol angenrheidiol. Ceir cannoedd o lythyrau yn archifau Plaid Cymru yn tystio i’w ddawn i lunio memorandwm, i drefnu agenda cyfarfod neu bwyllgor, i gynnig calondid a cherydd i weithwyr ar y maes. Erbyn canol y tridegau y posibilrwydd oedd y gallasai Lewis ddod yn rhan sefydlog a llailai hynod ym mywyd Cymru. Efallai, wir, y gallasai Cymru o’i rhan hithau fod wedi caniatáu iddo’i dröedigaeth at yr Eglwys Gatholig yn 1933 fel estyniad o ddandïaeth gwr a wisgai dei-bô, a fynnai ysgrifennu ‘Eisteddfod Fangor’ a ‘gwybodaeth Oronwy’, a arllwysai olew ar ei salad yn y dull cyfandirol ac a draethai’n wybodus am winoedd Ffrainc a dinasoedd hynafol yr Eidal. Buasai ei gorlannu felly wedi plesio rhai, yn sicr.

LLOSGI’R YSGOL FOMIO

Nid felly y bu. Newidiodd Penyberth yn 1936 bopeth. Trwy ei benderfyniad – ynghyd â Lewis Valentine a D. J. Williams – i losgi cytiau’r gweithwyr ar y safle ym Mhen Llŷn, lle y bwriadai’r Weinyddiaeth Awyr godi gwersyll i hyfforddi peilotiaid awyrennau bomio aberthodd ei ryddid, ei swydd ei safle a sicrwydd ariannol ei deulu.

Wedi ei ryddhau wedi naw mis o garchar yn Wormwood Scrubs, symudodd i Lanfarian ar gyrion Aberystwyth, a threuliodd y 15 mlynedd i ddod yn ennill bywoliaeth ansicr rhwng dysgu, ffermio a newyddiadura. Yn yr un flwyddyn ag y rhoddodd y gorau i lywyddiaeth y Blaid Genedlaethol, yn 1939, aeth yn golofnydd ‘Cwrs y Byd’ i’r Faner. Rhwng hynny ac 1951, cyfrannodd dros 560 o erthyglau wythnosol ar fywyd Cymru, Ewrop a’r Byd tra wynebai anocheledd rhyfel, dyddiau’r drin a’r byd newydd a ymagorai yn nyddiau’r heddwch. Yn y colofnau hyn y gwelir y gorau a’r gwaethaf yn Lewis: yn darogan gwae ac yn argyhoeddedig na ddôi dim da o fuddugoliaeth y naill ochr na’r llall. Dylai Cymru, meddai, sefyll uwchlaw’r frwydr. Ataliwyd ei golofn ragor nag unwaith a pheth cyffredin oedd pensel las y sensrwr.

Lewis Valentine, Saunders Lewis, a D. J. Williams

ISETHOLIAD Y BRIFYSFGOL

Ei olygon ef ar y rhyfel a’i tynnodd i’r arena gyhoeddus eto yn niwedd 1942, pryd y safodd fel ymgeisydd y Blaid yn isetholiad Prifysgol Cymru. Megis yn nyddiau ymgyrch yr Ysgol Fomio, ymhyfrydodd yn y cyffro a barodd. Am gyfnod hir ef oedd yr unig ymgeisydd ar y maes ond yn y pen draw llwyddodd y Blaid Ryddfrydol i ddenu W. J. Gruffydd i’r frwydr fel ymgeisydd di-blaid. Etholwyd Gruffydd yn Ionawr 1943, gan roi terfyn effeithiol ar weithgarwch gwleidyddol Lewis am weddill ei oes.

Yr hyn a lanwodd y gwagle yn ei fywyd oedd y ddrama. Gwelodd 1948 gwblhau Blodeuwedd, wedi bwlch o chwarter canrif ers ysgrifennu’r act gyntaf, ac yn ei sgil agorodd yr argae. Hyd yn oed wedi iddo gael ei benodi yn ddarlithydd yng Nghaerdydd yn 1952, fel dramodydd yn hytrach nag academydd y dymunai feddwl amdano’i hun. Ymddeolodd yn 1957, ond daliodd i ysgrifennu.

TYNGED YR IAITH

Ar drothwy ei 70 oed, yn 1962, mentrodd un o’i sylwadau olaf ar gyflwr Cymru. Mewn darlith radio gyda Tynged yr Iaith yn destun. Esgorodd ar sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gwneud yr henwr yn eilun i genhedlaeth newydd a fagwyd ar ddelfrydau’r mudiadau hawliau yn ne’r Unol Daleithiau a De Affrica. Aeth yr arch-geidwadwr yn symbol chwyldro.

Gyda chanol y chwedegau, fe’i cafodd ei hun – er syndod iddo – yn ffasiynol: perfformid cyfieithiadau Saesneg o’i ddramâu ar y BBC ac ar lwyfannau Hampstead. Ysgrifennodd yn 1965 nad oedd ‘yn gweithio dim yn rhengoedd Plaid Cymru’. Yr oedd y Blaid erbyn hynny ‘yn siom chwerw’ iddo. Ni allai ddygymod â’i thueddiadau sosialaidd na’i ffydd mewn dulliau cyfansoddiadol.

Protest Pont Trefechan, Aberystwyth

Daliai i gyhoeddi mor ddiweddar ag 1980, er gwaethaf strôc y flwyddyn gynt. Bu farw wedi salwch hir ym Medi 1985. Yn ei anerchiad yn yr angladd dywedodd yr Esgob Daniel Mullins hyn am ei ffydd Gristnogol: ”Doedd credu ddim yn beth hawdd iddo. Cymaint yn haws fyddai derbyn mai ar olwg allanol pethau y mae barnu’r byd ac mai pethau’r byd yw’r unig rai sydd. Byddai hynny’n caniatáu iddo fyw yn ôl ei reswm a doethineb yr oesoedd a bod yn atebol iddo ef ei hun yn y diwedd am ei weithredoedd.’ Fel yr oedd, ychwanegodd, rhaid oedd wynebu ‘croesddywediadau arswydus’. Gwir hynny am ei fywyd trwyddo.

T. ROBIN CHAPMAN


LLYFRYDDIAETH FER

Alun R. Jones a Gwyn Thomas (goln.) Presenting Saunders Lewis (Cardiff, 1973).
D. Tecwyn Lloyd a Gwilym Rees Hughes (goln.). Saunders Lewis (Abertawe, 1975).
Bruce Griffiths, Saunders Lewis: Writers of Wales (Cardiff, 1979).
Amryw, Barn, 273 (Tachwedd, 1985).
D. Ben Rees (gol.), Ffydd a gwreiddiau John Saunders Lewis (Lerpwl, 2002).
T. Robin Chapman, Saunders Lewis: un bywyd o blith nifer (Llandysul, 2006).