ENILLWYR YR YSGOLORIAETH

Simon Brooks

SIMON BROOKS
Cymhariaeth o fudiadau cenedlaethol canolbarth Ewrop mewn perthynas a Chymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg
.

Bu’n fater o benbleth i mi erioed pam oedd y mudiad cenedlaethol Cymreig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg mor swrth. Wedi’r cwbl, dyma’r cyfnod a adnabyddir yng ngweddill Ewrop wrth yr enw ‘Oes Cenedlaetholdeb’, y blynyddoedd ffurfiannol hynny pryd y bu cenhedloedd bychain diwladwriaeth canolbarth a dwyrain Ewrop yn dechrau ymryddhau o’u hualau. Beth pe bai Cymru wedi magu mudiad cenedlaethol cydnerth fel y gwnaethon nhw? A fyddai Cymru heddiw yn annibynnol neu’r iaith Gymraeg gymaint â hynny’n gryfach?

Dyna i chi gwestiwn diddorol! Ond ni fu modd i mi ystyried y cwestiwn hwn o ddifri’ nes ennill Ysgoloriaeth Saunders Lewis. Gyda’r Ysgoloriaeth yn gefn i mi rwyf wedi dechrau ar y gwaith o feistroli’r Almaeneg, a hynny er mwyn medru darllen iaith ysgolheictod canolbarth Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda’r wybodaeth ieithyddol hon, bwriadaf dreulio chwe mis yn Berlin – ar gyfnod sabothol o’m swydd fel Golygydd y cylchgrawn Barn – yn gwneud gwaith ymchwil mewn llyfrgelloedd.

Pan ddychwelaf i Gymru, bydd gen i (gobeithio!) y cefndir deallusol angenrheidiol er mwyn deall y cwestiwn hwn yn well, cyfle na fyddwn wedi ei gael oni bai am Ysgoloriaeth Saunders Lewis. Bwriadaf edrych wedyn ar waith radicaliaid Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r newydd. Pobl oeddynt a feddyliai yn aml iawn mewn cyd-destun Ewropeaidd, dynion megis Gwilym Hiraethog ac Emrys ap Iwan.


M. Paul Bryant-Quinn

M. PAUL BRYANT-QUINN
Cymry Milan, c.1540-1630

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg bu Milan yn gyrchfan i nifer o Gymry: yn glerigwyr a lleygwyr, Catholigion a Phrotestaniaid, y dysgedig a’r di-nod, yr oedd ganddynt amryw amcanion wrth ymweld â’r ddinas honno neu ymgartrefu yno, ac fe adawsant eu hôl. Yn eu plith, ceir gwŷr megis William Thomas o sir Frycheiniog, ysgolhaig ac arloeswr mewn astudiaethau ar hanes, iaith a diwylliant yr Eidal. Gweinyddwr eglwysig o’r radd flaenaf oedd Owen Lewis o Fôn, a ddaeth yn Ficer Cyffredinol ar archesgobaeth Milan yn oes y Cardinal Carlo Borromeo, un o brif ladmeryddion y Gwrthddiwygiad. I Filan hefyd, yn 1567, y teithiodd y dyneiddiwr amryddawn Humphrey Llwyd, yn aelod o osgordd Henry Fitzalan, Iarll Arundel. Daeth Llwyd yn ôl i Gymru â chopïau o un o gyfrolau Cymraeg mwyaf nodedig y cyfnod, sef Dosparth Byrr Gruffydd Robert: ysgolhaig, bardd, diwinydd a gramadegwr a ystyriwyd gan Saunders Lewis yn un o lenorion Cymraeg pwysicaf y ganrif honno. Nod yr astudiaeth hon, felly, fydd: (a) darparu rhestr fywgraffyddol o’r Cymry y gwyddys iddynt fod ym Milan rhwng c. 1540-1630; (b) cyflwyno astudiaeth newydd o fywyd a gwaith Gruffydd Robert (c.1527 – 15 Mai 1598), gan roi sylw penodol i’r llyfrau y cofnodwyd yn 1574 eu bod yn eiddo iddo; ac (c) paratoi golygiad beirniadol o’r Athravaeth Gristnogavl o waith Morys Clynnog a Gruffydd Robert, sef y gyfrol gyntaf i’w chyfiethu’n uniongyrchol o’r Eidaleg i’r Gymraeg. Hyderir y bydd yr astudiaeth hon yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o hanes a llên y Cymry a fu’n byw yn un o ddinasoedd pwysicaf yr Eidal mewn cyfnod nodedig yn hanes y ddwy wlad.


Einion Dafydd

EINION DAFYDD
Yr Eglwys Gatholig a’r Undeb Ewropeaidd: crefydd a llywodraethiant yn yr unfed ganrif ar hugain

Bwriad y prosiect yw archwilio natur y berthynas rhwng yr Eglwys Gatholig a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd yr astudiaeth yn ffocysu ar weithgareddau lobïo’r Eglwys, gan ystyried ffurf sefydliadol a threfniadaethol y cyrff sy’n gweithredu ar ei rhan a sut mae’r Eglwys yn ymwneud â phrosesau polisi’r Undeb Ewropeaidd. Yr Eglwys Gatholig yw carfan grefyddol fwyaf yr Undeb Ewropeaidd, a hi oedd un o’r rhai cyntaf i sefydlu swyddfa ym Mrwsel er mwyn datblygu cysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd. O ystyried hyn, mae’n rhesymol disgwyl mai’r Eglwys Gatholig sydd â’r drefniadaeth lobïo fwyaf soffistigedig o holl grwpiau crefyddol Ewrop. Drwy ddatblygu dealltwriaeth o’r drefniadaeth sefydliadol hon, ac o strategaeth lobïo’r Eglwys, gellid canfod i ba raddau mae modd i gyrff crefyddol fel yr Eglwys Gatholig geisio dylanwadu ar benderfyniadau polisi ac i lywio dyfodol Ewrop. Y nod ehangach yw esbonio beth mae hyn yn ei ddweud am y berthynas rhwng crefydd a llywodraethiant cyfoes. Bydd cynllun ymchwil y prosiect yn tynnu ar ddamcaniaethau grwpiau pwyso blaengar, a bydd y gwaith dadansoddi yn seiliedig ar gyfweliadau â chynrychiolwyr yr Eglwys Gatholig a swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd.


Anwen Elias

ANWEN ELIAS
Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac addasu i ddatganoli: astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego

Bwriad y prosiect yw astudio sut mae pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol wedi addasu i ddatganoli mewn dau gyd-destun gwahanol: yng Nghymru ac yng Ngalisia. Yn y ddau le yma, datganolwyd grym sylweddol i’r lefel ranbarthol, ar ddiwedd y 70au yng Ngalisia, ac ar ddiwedd y 90au yng Nghymru. Y mae sefydlu sefydliadau democrataidd rhanbarthol wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol. Rhwng 1999 a 2007, bu Plaid Cymru yn brif wrthblaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn rhan o glymblaid gyda’r Blaid Lafur ers Hydref 2007. Yng Ngalisia, mae’r Bloque Nacionalista Galego (BNG) wedi esblygu o fod yn blaid radical ymylol yn ystod yr 1980au, i fod yn blaid mewn llywodraeth gyda’r Blaid Sosialaidd ers 2005.

Ond er gwaetha’r llwyddiannau hyn, y mae’r ddwy blaid hefyd wedi wynebu nifer o sialensiau wrth geisio addasu i’w statws etholiadol a gwleidyddol newydd. Y mae tensiynau wedi codi yn ymwneud ag arweinyddiaeth, strategaeth, natur yr agenda bolisi a threfniant mewnol. Bydd yr astudiaeth yma yn ceisio ateb y cwestiwn canlynol: ai ffactorau unigryw ymhob cyd-destun a arweiniodd at y problemau yma wrth addasu i ddatganoli? Neu a yw pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn wynebu nifer o’r un sialensiau – a phroblemau – wrth iddynt ddatblygu i fod yn rymoedd gwleidyddol pwysig a phleidiau mewn llywodraeth? Ar sail dadansoddiad ansoddol o ddogfennau a chyfweliadau, bwriedir cymharu ymdrechion a phrofiadau Plaid Cymru a’r BNG wrth addasu i ddatganoli. Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn esgor ar ddealltwriaeth ddyfnach o ddylanwad datganoli ar Blaid Cymru a’r BNG. Gall y casgliadau hefyd fod yn sail i arsylwadau mwy cyffredin ar y sialensiau sy’n wynebu pleidiau cenedlaetholgar, a phleidiau gwleidyddol eraill, o ganlyniad i newid yn ei statws etholiadol a/neu wleidyddol.


Osian Elias

OSIAN ELIAS
Cyfundrefnau ieithyddol allddyfodol? Siaradwyr newydd a’r Pop Up Gaeltacht

Bwriad y prosiect yw archwilio natur wleidyddol hunaniaethau ieithyddol. Mae dwy prif elfen i’r prosiect: bydd yr ymchwil yn cynnig sylw i siaradwyr newydd o’r Wyddeleg ac i ddatblygiad diweddar ofodau diogel i ddefnyddio’r iaith. Heria ymchwil diweddar ym maes cymdeithaseg iaith ddehongliadau traddodiadol sy’n canfod iaith a’i siaradwyr yn gysyniadau homogenaidd a statig. Amlygir y cyferbyniad dros ystod o elfennau posib: hen ac ifanc, gwledig a threfol, cymuned a rhwydwaith, a’r modd o gymdeithasoli neu gaffael iaith. Yn aml, nodweddir siaradwyr newydd gan ddewis bwriadol i gaffael neu ddefnyddio’r iaith dan sylw ac mae’r garfan yma o siaradwyr yn arwyddocaol o fewn cyd-destun ieithyddol y Wyddeleg yn Iwerddon. Datblygiad cymesur yw sefydliad y Pop Up Gaeltacht i gynnig pau newydd o ddefnydd iaith o fewn cyd-destun dinesig. Cynigia’r Pop Up Gaeltacht pau o ddefnydd iaith dros-dro sy’n cyferbynnu â’r Gaeltacht ‘gwledig’ – gan adleisio’r tensiwn rhwng siaradwyr newydd a siaradwyr y Gaeltacht. Cynigia hyn gyfle i archwilio cyfundrefn ieithyddol newydd, neu allddyfodol, y Wyddeleg ac i adlewyrchu ar y cysyniad o siaradwyr newydd a pheuoedd newydd o ddefnydd iaith.


Tudur Hallam

TUDUR HALLAM
Saunders y Dramodydd

Rhydd ennill yr ysgoloriaeth hon gyfle imi ysgrifennu astudiaeth feirniadol ar waith dramataidd Saunders Lewis.

Dadl ganolog yr astudiaeth ydyw fod mawredd Saunders Lewis – cyfrinach ei ddramâu gorau – yn deillio o’r modd y mae ei gymeriadau yn defnyddio iaith (neu weithiau ddiffyg iaith), nid yn unig i gyfleu eu meddyliau a’u teimladau, ond er mwyn rheoli sut y mae eraill yn meddwl ac yn teimlo. Ystyrir sut y mae llefaru ynddo’i hun yn weithred ddigonol a all ddal sylw’r gynulleidfa, pan ymdeimlir bod cymhlethdod seicolegol yn perthyn i’r cymeriad sy’n llefaru. ‘[M]ae ynof i fy hun / Bethau … / … a fu’n fud ac a guddiais i o’m golwg fy hun’, meddai Siwan. Yn Saunders y Dramodydd, archwilir y berthynas rhwng y geiriau llafar a’r pethau cudd hyn sydd o’r golwg. Gwelir bod angen i gymeriad feddu ar fywyd mewnol – meddyliau, greddfau, ofnau, teimladau, dyheadau – o dan wyneb ei iaith, a bod yn rhaid iddo ddefnyddio’r iaith honno i rannu’r bywyd mewnol ag eraill, neu i’w warchod rhag i eraill ymyrryd ag ef.

Edrychir ar fathau penodol o lefaru yn nramâu Saunders Lewis – llefaru cyffesol, llefaru perswadiol, areithiau, tawedogrwydd – gan ystyried ym mha fodd y defnyddir iaith i gelu a datgelu’r bywyd mewnol, a hynny mewn ymgais i effeithio ar feddwl ac ymddygiad cymeriadau eraill. Drwy edrych ar waith ein prif feistr dramataidd, felly, dadleuir bod angen i’r dramodydd heddiw feddu ar nod amgenach nag ysgrifennu deialog. Rhaid iddo greu bywyd mewnol, cudd ei gymeriadau. Hynny a rydd inni’r tyndra dramataidd sydd mor amlwg yn rhai o ddramâu Saunders Lewis – y tyndra rhwng y pethau a fu’n fud a’r geiriau sy’n eu cyflwyno i eraill, a’r tyndra wedyn pan leferir y geiriau hynny mewn ymgais i dawelu eraill.


Rhianedd Jewell

RHIANEDD JEWELL
Her a Hawl wrth Gyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Bwriad y gyfrol hon yw astudio agwedd ar fywyd creadigol Saunders Lewis sydd heb ei ystyried yn fanwl, ac sydd, i raddau, yn cyfuno holl elfennau eraill ei fywyd personol a phroffesiynol, sef ei waith cyfieithu. Bydd y gyfrol yn dadansoddi cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu dau ffigwr hollbwysig yn llenyddiaeth Ffrangeg, sef Samuel Beckett a Molière. Canolbwynt yr ymchwil fydd natur y cyfieithiadau eu hunain. Trwy astudiaeth agos o’r testunau bydd y gyfrol, felly, yn dadansoddi iaith, cywair ac arddull y cyfieithiadau. Edrychir ar newidiadau nodweddiadol i’r testunau gwreiddiol, gan gynnig rhesymau posib trostynt. Gofynnir hefyd beth oedd diben Saunders wrth gyfieithu. A oedd yn bwriadu gosod ei farc personol ar y gweithiau hyn? Lleolir y gwaith yng nghyd-destun theorïau cyfieithu, gan ystyried cwestiynau megis a oes gan gyfieithydd hawl i addasu gwaith gwreiddiol, ac i ba raddau y gellir diffinio cyfieithiad yn gelfyddydwaith annibynnol? Bydd yr astudiaeth hefyd yn ystyried pam y dewisodd Saunders gyfieithu gwaith y llenorion hyn, ac yn benodol y testunau hyn. Ymhellach felly, bydd yr ymchwil yn cymharu themâu a syniadau sydd yn gyffredin neu’n wahanol yng ngweithiau eraill y tri dramodydd, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth o’u holl waith.


Bryn Jones

BRYN JONES
Y Cymry a’r Babaeth cyn y goresgyniad Edwardaidd

Canolbwyntiodd hanesyddiaeth gyfosodol a dadansoddol Gymreig sy’n ymdrin â’r canol oesoedd ar hanes y Cymry a rhai o genhedloedd eraill Ynysoedd Prydain. Hyd yn ddiweddar iawn roedd nifer o ffynonellau (megis croniclau, testunau cyfraith a barddoniaeth) naill ai wedi eu golygu’n wael neu heb eu golygu o gwbl. Gellid deall felly i rai graddau pam y bu i ychydig iawn o waith ysgolheigaidd drafod Cymry’r canol oesoedd mewn cyd-destun Ewropeaidd. Er i Robert Bartlett ddefnyddio enghreifftiau o hanes Cymru yn ei lyfr dylanwadol The Making of Europe, ac er i R. R. Davies, Huw Pryce, Seán Duffy a Katharine Olson ddadansoddi rhai agweddau o’r berthynas rhwng Cymry’r canol oesoedd a’u cyfoedion cyfandirol, ni fu astudiaeth na thrafodaeth estynedig am natur na phwysigrwydd y llu hwn o gysylltiadau. Ni fu ymgais o gwbl i esbonio pwysigrwydd y Babaeth i eglwysi a theyrnasoedd Cymru yn y canol oesoedd. Gwyddom i nifer o Gymry, yn dywysogion, esgobion a phobl gyffredin, ymweld â Rhufain cyn goresgyniad 1282/83. Gwyddom hefyd i sawl Pab fynegi diddordeb mewn digwyddiadau yn nheyrnasoedd y Cymry. Bwriad y prosiect yw cymryd cam bach tuag at lenwi’r bwlch hwn drwy lunio rhestr ddisgrifiadol o’r dogfennau perthnasol a gedwir yn Llyfrgell ac Archifdy’r Fatican, ynghyd ag esboniad o’u pwysigrwydd i berthynas y Cymry a’r Babaeth. Dylai rhestr o’r fath ddarparu sail a sbardun i waith ymchwil pellach yn y maes. Yn bwysicach, dylai arwain at well dealltwriaeth o’r cysylltiadau gwleidyddol ac ysbrydol rhwng y Cymry a Rhufain cyn y goresgyniad Edwardaidd.


Gwion Lewis

GWION LEWIS
Yr Hawl i’r Gymraeg

Treuliodd Gwion Lewis haf 2004 ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal, yn astudio’r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a’r gyfraith. Bydd ffrwyth ei ymchwil, y gyfrol Yr Hawl i’r Gymraeg, yn gosod y Gymraeg yn ei chyd-destun cyfreithiol, ac yn pwyso a mesur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o safbwynt cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ôl Gwion, ni fydd y ddeddfwriaeth Brydeinig yn agos at fod yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod fod gennym fel dinasyddion hawl ddynol i siarad ein hiaith gyntaf. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed ers dyfodiad Deddf Hawliau Dynol 1998, a dywed Gwion fod gan y llysoedd fframwaith syniadol gadarn bellach ar gyfer ymdrin â hawliau iaith. Hyd yn hyn, nid yw’r mudiad iaith yng Nghymru wedi llawn sylweddoli potensial y teclynnau cyfreithiol hyn. Gobaith Gwion yw y bydd Yr Hawl i’r Gymraeg yn llenwi’r bwlch, ac yn cynnig dadleuon mwy sylweddol i’r mudiad wrth i’r galw am ‘ddeddf iaith newydd’ gynyddu.


Manon Hefin Mathias

MANON HEFIN MATHIAS
Astudiaeth feirniadol o ohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis

Bydd y gyfrol yn ystyried swyddogaeth gohebiaeth ym mywyd deallusol y llenorion uchod, gan godi cwestiynau ynglŷn â natur gohebiaeth a’i hystyried fel ffurf ynddi ei hun. Fel llenorion y byddaf yn ystyried y gohebwyr yn bennaf, a chanolbwynt yr astudiaeth fydd rôl gohebiaeth o fewn y broses lenyddol; ar y naill law fel platfform sydd yn caniatau i’r awdur ddiffinio ei syniadau ei hun, yn gyferbyniad i feddylfryd y llall, ac ar y llaw arall fel deialog, wrth i’r ddau awdur rannu syniadau a dylanwadu ar waith ei gilydd. Yn ogystal ag archwilio cyd-destun personol, hanesyddol, daearyddol a chymdeithasol y cynnwys, bydd yr astudiaeth yn ystyried cywair ac arddull y llythyron. Bydd y gyfrol, felly, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r awduron hyn a’u gwaith, ond hefyd yn ystyried arwyddocâd gohebiaeth rhwng dau lenor. Y nod fydd dod i gasgliadau gwreiddiol ar ddylanwadau llenyddol drwy astudio llythyron dau o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru ochr yn ochr â’r ohebiaeth rhwng dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Catrin Owen

CATRIN OWEN
Sut mae celf weledol gyfoes yn mynegi hunaniaeth genedlaethol? : Astudiaeth o Gymru, gan gymharu â Lithwania a thu hwnt

Dros gyfnod o ddwy flynedd dwi am asesu sut mae celf weledol gyfoes yn mynegi hunaniaeth genedlaethol gan edrych ar Gymru yn benodol, tra’n tynnu ar esiamplau o Lithwania a thu hwnt yn Ewrop.

Prif nodau’r gwaith yw:
i). creu astudiaeth sy’n trafod sut fod celf weledol gyfoes yn gallu mynegi hunaniaeth genedlaethol
ii). Bod yn fodd i greu deialog am y diwydiant a diwylliant celf weledol yng Nghymru a thu hwnt
iii). Cyfrannu at y ddadl gyfredol am Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol tra’n dathlu’r orielau, mudiadau a’r strwythurau sy’n hybu a tyfu celf cyfoes yng Nghymru

Mae celf yn fodd i fynegi. Mae’n gallu bod yn ffordd o adlewyrchu hunaniaeth bersonol, o brofiad unigol. Ond credaf bod celf weledol hefyd yn gallu casglu a arddangos ein cyd-brofiadau a darparu persbectif fwy eang; ar ddaearyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth, strwythyr a chymdeithas gwlad. Yn y modd yma, teimlaf fod gan gelf weledol y gallu i fynegi hunaniaeth gwlad. Credaf fod edrych ar ddiwydiant celf gwlad hefyd yn gallu rhoi mewnwelediad i ddatblygiadau’r wlad yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Mae orielau da yng Nghymru, lle gellir gweld, trafod, beirniadu a phrynu celf weledol gyfoes. Maent yn cynnwys orielau preifat a thrydydd sector a’r amgueddfa Genedlaethol sy’n aml yn cynnal arddangosfeudd. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn arddangos gwaith cyfoes yn Y Lle Celf – gyda hyd at 40,000 o ymwelwyr bob blwyddyn – llawer ohonynt nad ydynt fel arfer yn ymweld ag orielau. Mae gan Gymru hefyd rôl ryngwladol gyda phresenoldeb yn y Biennale drwy Cymru yn Fenis a hefyd gystadleuaeth weddol newydd yr Artes Mundi yng Nghaerdydd.

Serch hynny, nid oes gan Gymru Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes. Mae’r ddadl amdani wedi cael ei chynnal ers degawdau. Mae cynlluniau am Oriel wedi cael eu llunio sawl gwaith gyda gobeithion yn cael eu codi a thrafodaethau wedi’u cynnal – heb ddim yn digwydd.  Dechreuodd yr ymgais ddiweddaraf gydag astudiaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau a’r Amgueddfa Genedlaethol. Argymhellion yr astudiaeth oedd yr angen i gynnal rhwydwaith o thua wyth lleoliad sy’n bodoli eisioes ynghyd ag un canolfan fel canolbwynt gref yn hytrach nag un ganolfan neu adeilad. Rwy’n gweld y pwnc yma’n un o’r prif bynciau i drafod fel rhan o’r astudiaeth yma. Mae dyfodol a chynaladwyaeth y diwydiant celf yng Nghymru yn fregus ac yn ddibynol, i raddau helaeth, ar bartneriaethau a chydweithredu rhwng galeriau, artistiaid, strwythurau rheoli a ariannu yng Nghymru a thu hwnt.  

Rydw i wedi dewis Lithwania fel ail wlad i astudio am sawl rheswm. Er enghraifft, mae’n wlad gymharol debyg o ran maint i Gymru gyda 2.8 miliwn o bobl yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2019.  Mae hanes cymhleth a dwys y wlad o ddiddordeb mawr i mi, yn enwedig am i Lithwania ond lwyddo i sicrhau annibyniaeth yn ystod y degawdau diwethaf. Mae hanes y wlad yn dangos cymaint o ddylanwadau Ewropeaidd arall sydd wedi’u plethu yn hunaniaeth y wlad, yn gymharol debyg i hanes Cymru mewn rhai ffyrdd ond yn wahanol iawn mewn ffyrdd eraill. Yn ogystal â hyn mae statws Lithwania fel un o’r Gwledydd Baltig yn arwyddocaol.

Fel rhan o’r astudiaeth mi fyddwn yn hoffi archwilio sut bod y priodweddau gwleidyddol a daearyddol wedi cael effaith ar waith celf weledol y wlad, yn enwedig dros y degawdau diwethaf, a’r effaith mae hyn wedi cael ar hunaniaeth genedlaethol. Mae gan Lithwania fyd celf sy’n byrlymu ac yn unigryw iawn o rhan grym rhyngwladol am wlad â phoblogaeth weddol fach.

Un enghraifft nodedig o’r flwyddyn ddiwethaf oedd llwyddiant y wlad ym Miennale Fenis sy wedi bod yn cymeryd lle ar draws y ddinas ers mis Mai. Pafiliwn Lithwania oedd enillydd y ‘Golden Lion’, sef prif wobr yr ŵyl am y cyfranogiad cenedlaethol orau.

Tu hwnt i Fenis, mae gan Lithwania ddarpariaeth gadarn o gelf weledol o fewn y wlad ei hun, gyda Vilinus yn ganolbwynt sicr yn llawn galerïau gwych fel CAC a Rupert. Yn 2018 cynhaliwyd ‘Baltic Triennial’ a gymerodd lle ar draws tair gwlad y Baltig ar yr un pryd am y tro cyntaf erioed. Mae Vilinus hefyd yn gartref i Galeri Cenedlaethol Lithwania, sy eleni yn dathlu degawd o fodolaeth. Bu hefyd ‘Vilnius Gallery Weekend’ a gafodd eu cynnal am y 4ydd tro yng nghynt mis yma. Tro yma roedd dros 25 galeri a gofodau arbennig o amgylch y ddinas a’r ffiniau. Mae’r diwydiant yma yn amlwg yn tyfu, ac ond ar ddiwedd 2018 bu ailagor y Canolfan Gelf Fodern, sy bellach wedi enwi yn Amgueddfa MO, galeri arbennig sy’n archwilio celf Lithwaneg o’r 1950au hyd heddiw.

Fel rhan o’r asesiad byddaf yn ymdrin â chyfres o bynciau fydd yn cyfeiro at fyd celf Cymru, Lithiwania a thu hwnt.

–    Hanes a daearyddiaeth gwlad
Sut mae lleoliad daearyddol yn effeithio ar gelf gwlad? Sut mae hanes yn effeithio ar gelf gwlad?
–    Annibyniaeth
Beth fyddai’n digwydd i gasgliad celf Cymru be bai’n wlad annibynnol? Sut gall Gymru gynilo fwy o gelf cyfoes clasurol i hybu’r diwydiant? Sut mae creu byd celf masnachol cynaliadwy mewn gwlad annibynnol?
–    Rôl iaith
Ydi rôl yr iaith Gymraeg yn hunaniaeth y wlad yn cael ei throsglwyddo i’r celf sy’n cael ei greu? Oes gwahaniaeth yn niwydiant celf iaith Gymraeg? Oes modd tyfu a hybu’r iaith drwy’r byd celf?  
–    Gofodau a diwydiant celf y wlad
Oes digon o orielau masnachol yng Nghymru? Sut gellid annog mwy o bobl i brynu celf? Sut gallwn ni ddenu’r gymuned gelf rhyngwladol i ymweld â Cymru fwy? Sut mae’r ddadl a’r drafodaeth gyhoeddus am Oriel Genedlaethol yn datblygu? Beth yw’r opsiynau arall?
–    Perthynas gyda’r byd celf ryngwladol
Sut mae mudiadau fel Cymru yn Fenis ac Artes Mundi yn cael dylanwad ar Gymru? Ydy gwaith rhyngwladol yn teithio i Gymru?
–    Artistiaid y wlad
Pa mor hawdd yw hi i fod yn artist yng Nghymru? Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael? Pa fath o bynciau sy’n pryderu artistiaid ac yn ac yn dylanwadu ar eu gwaith?
–    Cymdeithas (perthynas hunaniaeth bersonal a hunaniaeth gwlad – drwy lygaid artistiaid)
Sut mae hîl, rhyw, rhywoliaeth, dosbarth, crefydd a phriodweddau cymdeithasol eraill yn dylanwadu ar gelf gwlad a diwydiant celf gwlad.

Mae creu celf yn broses sy’n galluogi unigolion i ddechrau ffurfio a datblygu eu hunaniaeth bersonol. Mae hefyd yn fodd o ddehongli, ystyried, ychwanegu at, neu herio’n diwylliant. Mae’r broses o greu yn un sy’n gallu cyfrannu at synnwyr unigol neu gyfunol o hunaniaeth, a tybiaf ei fod yn cyfrannu’n helaeth at ddatblygiad mynegiant hunaniaeth gwlad.


Rhodri Owen

RHODRI OWEN
Ail-ddychmygu dodrefn traddodiadol Cymru drwy ddylanwadau Ewropeaidd

Tra yn awyddus i ddatblygu fy nghrefft fel saer dodrefn, rwyf hefyd yn awyddus i roi gwedd newydd i hen batrymau dodrefn Cymreig gan ddefnyddio gwaith a syniadaeth cynllunwyr o Ewrop fel ysbrydoliaeth yn hyn o beth.
Drwy ymweld â gwneuthurwyr a dylunwyr yng Ngwlad y Basg a Sgandinafia yn benodol, byddaf yn ymchwilio ymhellach i’r dylanwadau amrywiol ar eu gwaith e.e. rhai amgylcheddol neu wleidyddol efallai. Byddaf yn edrych ar sut mae crefftwyr ac artistiaid o’r gwledydd hyn yn mynd ati i uwchraddio dyluniadau a thrawsnewid dodrefn traddodiadol yn rhywbeth sy’n perthyn i’r oes hon a hefyd sut mae dyluniadau oesol o weithdai adnabyddus wedi cadw eu hapel ar draws y blynyddoedd.
Ynghyd â ffilm fydd yn cael ei gwneud o’r daith bydd y wybodaeth a’r profiad yn ysgogi ail-ddehongli tri darn o ddodrefnyn traddodiadol Cymreig – gan fynd ymlaen i’w dylunio a’u creu yma yng Nghymru gyda’r bwriad o’u dangos fel arddangosfa mewn gofod cyhoeddus addas ynghyd â’r ffilm, gan obeithio y bydd hynny yn y dyfodol agos!
Yn y cyfamser bydd mwy o wybodaeth am y gwaith a’r syniadaeth y tu ôl iddo yn ymddangos ar ffurf blog ar calongron.com..


Sioned Puw Rowlands

SIONED PUW ROWLANDS
Yr Esthetig a Gwleidyddiaeth yr Ymylon

Mae’r gyfrol yn trafod yr esthetig yng nghyd-destun gwleidyddiaeth cymunedau ymylol. Archwilir y berthynas rhwng yr esthetig, ideoleg a’r ysgrifol mewn testunau gan Twm Morys a dau awdur Tsiec, sef Bohumil Hrabal (1914-1997) a’r cyn Arlywydd, Václav Havel (1936-). Dadleuir fod y testunau hyn yn ymwneud â’r esthetig mewn modd deinamig, yn wahanol i’r syniad o’r esthetig fel anasthetig, fel rhywbeth anwleidyddol, a ddisgrifiwyd gan gryn dipyn o theori’r ugain mlynedd ddiwethaf – theori a luniwyd ar y cyfan yng nghyd-destun diwylliannau mwyafrifol. Dadleuir fod yr esthetig yn chwarae rhan sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr awduron hyn, sydd yn ymwneud â safbwyntiau lleiafrifol.


Elin Royles

ELIN ROYLES
Sefydliadau datganoledig a chymdeithas sifil – gwersi Catalonia i Gymru?

Syniad cymharol newydd yw cymdeithas sifil yng ngwleidyddiaeth y wladwriaeth Brydeinig. Yng Nghymru, mae rôl wleidyddol cymdeithas sifil yn ei babandod. Y gobaith oedd y byddai sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain at hybu cymdeithas sifil Gymreig (Paterson & Wyn Jones, 1999: 169). Wrth drafod datganoli a chymdeithas sifil yng Nghymru, yr arfer yw cymharu rôl allweddol cymdeithas sifil yn yr Alban yn ymgyrchu i sicrhau datganoli. Bwriad yr astudiaeth hon yw mynd i gyd-destun Ewropeaidd ehangach a chymharu Cymru a Chatalonia. Bydd yn defnyddio fframwaith cymharol i edrych ar y rhyngberthynas rhwng cymdeithas sifil a’r sustemau gwleidyddol i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r ddeinameg rhwng datganoli gwleidyddol a chymdeithas sifil yng Nghymru.

Er mwyn asesu beth ydi effaith llywodraeth ranbarthol ar gymdeithas sifil, bydd yr astudiaeth yn ceisio ateb dau brif gwestiwn ymchwil:
i) Pa effaith gaiff llywodraeth ranbarthol ar rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil?
ii) Ydi llywodraeth ranbarthol yn dylanwadu ar hunaniaeth cymdeithas sifil?

Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, bydd yr astudiaeth yn ystyried yr agweddau canlynol. Yn gyntaf, er mwyn asesu’r gymhariaeth a gosod y cyd-destun, bydd yr ymchwil yn cymharu natur a chyd-destun cymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalonia. Yna, bydd yn cymharu strwythurau’r Generalitat yng Nghatalonia a’r Cynulliad Cenedlaethol gan roi sylw penodol i’r graddau mae’r strwythurau yn hybu cyfleon cyfranogaeth cymdeithas sifil yn y sustemau gwleidyddol gwahanol. Ar sail hyn, drwy ddefnyddio astudiaethau achos penodol bydd yr ymchwil yn edrych y fanylach ar y rhyng-berthynas rhwng grwpiau cymdeithas sifil a’r llywodraeth er mwyn asesu’r goblygiadau i rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil a hunaniaeth. Bydd yr astudiaeth yn gwneud defnydd o lenyddiaeth gynradd ac eilradd, data meintiol. Hefyd bydd gwaith ymchwil gwreiddiol yn cynnwys cyfweliadau ac astudiaethau achos penodol.

Felly, mae’r ymchwil yn defnyddio technegau gwyddorau cymdeithasol sef gwaith cymharol sustemataidd i edrych yn ddyfnach ar sustemau gwleidyddol a diwylliant gwleidyddol. Pa ffordd well o wneud hyn nag ystyried sefyllfa Cymru mewn cyd-destun Ewropeaidd fel y gwnaeth Saunders Lewis ei hun.


Hannah Sams

HANNAH SAMS
Theatr yr Abswrd yng Nghymru a Chatalwnia : Aled Jones Williams a Sergi Belbel

Cymherir Cymru â Chatalwnia mewn cyd-destunau gwleidyddol a chynllunio ieithyddol yn fynych. Fodd bynnag, yr ydym eto i weld y math hwnnw o drafodaeth ym maes y theatr. Bwriad yr astudiaeth hon yw newid hynny trwy archwilio gwaith dau ddramodydd a ystyrir yn ddramodwyr blaenaf eu cenhedlaeth, ac ymhlith blaenaf eu cenhedloedd, sef Aled Jones Williams o Gymru a Sergi Belbel o Gatalwnia.

Dechreuir trwy archwilio pam y mae’r ddau ddramodydd hyn yn cael eu hystyried yn ddramodwyr blaenaf eu cenedlaethau a’u cenhedloedd ar hyn o bryd cyn ystyried y berthynas rhwng y ddau draddodiad dramataidd a’r ddau ddramodydd trwy archwilio amlygrwydd Theatr yr Absẃrd yng Nghatalwnia a Chymru. Eir ati wedyn i archwilio i ba raddau y mae modd olrhain dylanwad Theatr yr Absẃrd ar ddramâu’r ddau ynghyd ag ystyried drwgdybiaeth y ddau o iaith fel cyfrwng effeithiol i gyfathrebu, er mor farddonol yw’r iaith a ddefnyddir gan y ddau yn aml. Ystyriaf hefyd sut mae’r ffaith bod y ddau yn dewis ysgrifennu mewn iaith leiafrifol yn cael effaith ar eu gwaith. Mae nifer o elfennau thematig yn clymu gwaith y dramodwyr ynghyd hefyd, megis cwestiynu hunaniaeth, boed hynny’n hunaniaeth rywiol neu’n hunaniaeth genedlaethol. At hyn, archwiliaf addasrwydd y term ‘ôl-drefedigaethol’ fel label i ddisgrifio’r ddau ddramodydd dan sylw, a’r tueddiadau sy’n uno’r ddau ddramodydd.

Rhydd yr ysgoloriaeth hon yr amser a’r adnoddau imi fynd i’r afael â chysylltiad gwleidyddol-theatraidd rhwng dwy genedl ddiwladwriaeth, Cymru a Chatalwnia, a chreu pont newydd rhwng dau draddodiad theatraidd.


HEATHER WILLIAMS
Stéphane Mallarmé

Treuliodd Heather Williams flwyddyn ym Mharis (1996-1997) yn ymchwilio i ieithwedd barddoniaeth un o feirdd mwyaf y traddodiad Ffrangeg, sef Stéphane Mallarmé (1842-1898). Gan fanteisio ar gyfoeth y casgliadau yn y Bibliothèque nationale a’r Bibliothèque littéraire Jacques Doucet, astudiodd y berthynas rhwng athroniaeth a barddoniaeth yn ei waith, gan ganolbwyntio ar eirfa a ieithwedd fetaffisegol Mallarmé. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil yn Barddoniaeth i Bawb?: Stéphane Mallarmé (Aberystwyth: Ymddiriedolaeth Saunders Lewis, 1998). Mae’r gyfrol yn cyflwyno Mallarmé i’r darllenydd Cymraeg, gan ei osod yn ei gyd-destun, mae’n rhoi cynnig ar gyfieithu ambell gerdd i’r Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn trafod pwysigrwydd ffurf farddonol mewn pennod chwareus ar Mallarmé a’r gynghanedd.