YR YSGOLORIAETH GOFFA
1. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion am Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis i’w galluogi i un ai:
- dreulio amser ar gyfandir Ewrop yn astudio un o bedwar maes: drama a/neu ffilm, systemau gwleidyddol, cysylltiadau llenyddol y celfyddydau cain gan gynnwys cerddoriaeth;
- neu gyflwyno astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad Saunders Lewis i lên, theatr neu wleidyddiaeth Cymru.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr ifanc o dan 35 oed ond gellir ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn dan amgylchiadau penodol.
2. Gwerth y Gronfa yw hyd at £10,000 dros ddwy flynedd. Mae gan y Bwrdd yr hawl i rannu’r ysgoloriaeth rhwng mwy nag un ymgeisydd. Yn arferol, y cyfartaledd a gynigir i unigolyn yw oddeutu £4,000 – £5,000.
3. Ar derfyn cyfnod yr ysgoloriaeth disgwylir i’r deilydd gyflwyno deunydd yn Gymraeg yn seiliedig ar y gwaith a wnaed ganddo/ganddi, mewn ffurf a fo’n addas i’w gyhoeddi. Dylid nodi bod gwahanol fathau o allbynnau’n dderbyniol e.e. podlediadau neu berfformiadau, nid ‘astudiaethau’ ysgrifenedig yn unig.
4. Mae’r Gronfa bellach ar gau – disgwylir iddi agor nesaf yn 2027.