YMDDIRIEDOLWYR Y GRONFA

Elwyn Jones (Cadeirydd)
Euryn Jones (Trysorydd)
Deian Creunant (Ysgrifennydd)

Menna Baines
Yr Athro Sioned Davies
​Ann Ffrancon
Gwerfyl Pierce Jones
Siwan Jones
Dafydd John Pritchard
Rebecca Williams
Sioned Williams


Colli dau o sylfaenwyr y Gronfa

Yng Nghyfarfod Blynyddol y Gronfa (Mai 2015) cafwyd cyfle i dalu teyrnged i ddau o’r selogion. Soniodd y Cadeirydd, yr Athro M. Wynn Thomas, am gyfraniad arbennig y diweddar Dr Meredydd Evans a’r diweddar Athro Geraint Gruffydd – y ddau yn rhan o sefydlu’r Gronfa yn y lle cyntaf. Cyfeiriwyd at eu cefnogaeth ddiwyro dros y blynyddoedd gan gofio bod Merêd wedi bod yn ysgrifennydd am gyfnod a Geraint wedi ysgwyddo cyfrifoldebau Cadeirydd y Gronfa. Bu colli’r ddau, o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd, yn ergyd drom i’r Gronfa ac i Gymru ond bydd eu gwaith yn parhau ac yn deyrnged i’w gweledigaeth.