Y GRONFA GOFFA

HANES Y GRONFA

Bu farw Saunders Lewis 1 Medi 1985. Y mis Mehefin canlynol, cyfarfu Dr Meredydd Evans a Dr Geraint Gruffydd yn nhŷ Emyr Humphreys yn Llanfair-pwll i drafod sefydlu Cronfa Goffa iddo. Cytunwyd ar y bwriad a chafwyd sêl bendith unig blentyn Saunders Lewis, Mrs Haydn Jones (Mair Saunders). At y tri a enwyd uchod ychwanegwyd enwau Alun Creunant Davies, Ann Ffrancon a’r Esgob Daniel Mullins yn Ymddiriedolwyr. Cyfarfu cyfarfod cyntaf Pwyllgor Apêl Cronfa Goffa Saunders Lewis yn Aberystwyth ar 3 Mehefin 1989. Cytunodd R Geraint Gruffydd i weithredu fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Meredydd Evans fel Ysgrifennydd ac yn cael ei gynorthwyo gan Ann Ffrancon, ac Alun Creunant Davies fel Trysorydd. At yr Ymddiriedolwyr fe ychwanegwyd Pwyllgor Rheoli tra grymus o dri pherson ar ddeg yn wreiddiol, a oedd yn cynnwys Mair Saunders a’r Arglwydd Prys-Davies o Lanegryn. Yr Arglwydd Prys-Davies, maes o law, a ddrafftiodd y cyfansoddiad a sicrhaodd i’r Gronfa Goffa statws elusennol.

Lansiwyd y gronfa ar 18 Hydref 1989 yn swyddfeydd y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd – lleoliad symbolaidd addas o gofio am ddiddordebau Saunders Lewis. Gosodwyd nod o £150,000 ar gyfer y Gronfa, ac y mae’r nod hwnnw bellach wedi’i gyrraedd, diolch i ymroddiad clodwiw amryw o Is-Bwyllgorau Sirol.


PRIF WEITHGAREDD Y GRONFA

Y mae’r Gronfa, drwy gyfrwng Pwyllgor Rheoli ac arno gynrychiolaeth gref o blith prif sefydliadau diwylliannol Cymru, yn dyfarnu Ysgoloriaethau mewn pum maes, sy’n cynrychioli rhai o brif ddiddordebau Saunders Lewis ei hun: y ddrama (yn cynnwys ffilm), cysylltiadau llenyddol, systemau gwleidyddol, y celfyddydau cain, yn ogystal ag astudiaeth o fywyd/gwaith Sauders Lewis ei hun. Y nod ymhob achos yw galluogi Cymry ifainc i dreulio peth amser ar gyfandir Ewrop er mwyn gweld pa arwyddocâd a allai fod i Gymru yn y datblygiadau Ewropeaidd – cyfoes neu hanesyddol – yn y meysydd hyn. Ar ddiwedd y cyfnod disgwylir iddynt gyflwyno adroddiad cryno yn Gymraeg mewn ffurf addas i’w chyhoeddi.


GWAHODDIAD I GYFRANNU

Sefydlwyd Cronfa Goffa Saunders Lewis drwy roddion ariannol gan unigolion a chymdeithasau ledled Cymru ac mae’r Gronfa bob amser yn falch o dderbyn cyfraniadau.

Dim ond drwy sicrhau cronfa ariannol gref y bydd modd parhau gyda’r gwaith o gynnig ysgoloriaethau ar gyfer astudiaethau mewn meysydd diwylliannol oedd o ddiddordeb i Saunders Lewis.

Gellir cyfrannu i’r Gronfa drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd, Cadwgan, Felin y Môr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1BU.